Defnyddio Gwybodaeth oddi ar y Rhyngrwyd
 

Gallwch gopio unrhyw ran o destun a welwch ar dudalen rhyngrwyd i'w ddefnyddio ar eich cyfrifiadur personol trwy ei ddewis. Fe wnewch hyn trwy roi'r cyrchwr ar ddechrau'r testun, dal y botwm chwith i lawr gan lusgo'r llygoden at bwynt gorffen eich dewis.Bydd y testun yn cael ei dywyllu fel yn y llun.

wpeE.jpg (111827 bytes)
    

Wedi gwneud bydd yn rhaid ei gopio i glipfwrdd y cyfrifiadur.  Er bod sawl ffordd o wneud hyn fe awgrymir clicio ar yr icon "Edit" ac yna dewis "Copy". Bydd y testun yn cael ei gadw yng nghof y cyfrifiadur yn barod i chwi ei osod yn eich rhaglen prosesu geiriau neu fwrdd cyhoeddi.
Agorwch eich rhaglen, e.e. "Word". Gosodwch y cyrchwr ar yr union fan y dymunwch osod y testun. Yna ewch i'r bar icon a dewis "Edit" ac yna "Paste". Bydd y testun yn ymddangos yn eich dogfen.

wpeF.jpg (43480 bytes)